Llestr coginio efydd (trulleus).
Mae’r goes wedi’i stampio ag enw Maturus y gwneuthurwr o Gâl, ac enw’r gatrawd Catrawd Gyntaf Marchfilwyr Thracia (Ala I Thracum).
Mae’n bosibl fod yr Ala I Thracum, gyda’r Ail Leng Awgwstaidd, yn ffurfio’r gariswn yn Isca yn y blynyddoedd cynnar. Byddai gallu milwrol y lleng wedi cael ei hymestyn gan garfan gref o farchfilwyr.
Canfuwyd mewn ffynnon yn nhŷ swyddog, ar safle’r Amgueddfa
Canrif 1af OC