Crogdlws bychan i’w roi ar neclis yw hwn ac mae iddo ddwy elfen; glain aur crwn ynghlwm wrth gorff deugonig. Gwnaed y corff o wifren aur â thrychiad crwn sydd wedi’i thorchi’n droell dyn a’i hasio i wneud crogdlws gwag â thwll yn y ddau ben. Mae’r corff yn culhau yn y ddau ben ac mae ar ei letaf yn y canol. Ar ben y tlws, rhoddwyd glain bach gwag y gellid rhoi llinyn trwyddo. Mae ôl traul ar y glain a rhannau o’r crogdlws sy’n arwydd eu bod wedi’u rhwbio a’u crafu wrth gael eu defnyddio.