Dyma freichled aur gyflawn wedi’i gwneud o chwe gwifren aur dro wedi’u gosod ochr yn ochr ac wedi'u sodro yma a thraw wrth wifrau gerllaw. Gyda’i gilydd, mae’r gwifrau hyn yn gwneud bandyn cul a dorchwyd yn dynn yn ddwy droell gonsentrig â ‘chynffon’ yn estyn allan, i ffitio y tu mewn i lestr crochenwaith gyda phethau eraill cysylltiedig, a’u claddu. Ar bob pen mae terfynell aur onglog, pen fflat, yn dal pennau’r gwifrau aur. Yn wreiddiol, byddai’n freichled tua 4.8-6.0cm o ddiamedr, ac mae’n debygol y byddai bwlch rhwng y ddau ben.