Dyma dorch neu gylch gwddf cyflawn a main sydd â chantelau tro. Fe’i gwnaed o far aur solet. Cafodd ei thorchi’n dynn saith a hanner o weithiau, er mwyn iddo ffitio y tu mewn i lestr crochenwaith gyda phethau eraill cysylltiedig, a’u claddu. Ar y ddau ben, gwelir terfynell fachog â thrychiad crwn a weldiwyd ar y bar cantelog; mae’r terfynellau hyn yn ddiaddurn ac ar ffurf conau, yn ymledu tua’r pen.