Prin iawn yw’r gwrthrychau sy’n gysylltiedig ag Owain Glyndŵr a ddaeth i’r fei. Mae’r arfbais hon yn un ohonynt. Cafwyd hyd iddi yng Nghastell Harlech a feddiannwyd gan Owain Glyndŵr rhwng 1404 a 1408/9. Dyma’i arfbais pan oedd yn Dywysog Cymru, tua 1400. Ond erbyn 1409, roedd ei wrthryfel yn colli tir. Ymhen pum mlynedd, roedd Owain Glyndŵr wedi diflannu’n llwyr.