Dyma fodrwy fylchgron fechan wedi’i gwneud o ffoil electrwm wedi’i lapio o gwmpas craidd o gopr. Lapiwyd stribed o ffoil aur o’i gwmpas i roi patrwm rhesog. Mae’r terfynellau’n fflat ac mae tua 2.0mm rhyngddynt. Yn draddodiadol, galwyd modrwyau bylchgrwn bychan wedi’u gwneud o aur neu eu haddurno â ffoil aur yn ‘fodrwyau gwallt’ neu’n ‘gylchau mwnai’/’arian modrwy’, ond ni wyddom yn union beth oedd eu diben. Yn Iwerddon y canfuwyd hwy amlaf ond mae mwy a mwy yn cael eu darganfod yng Nghymru a de Lloegr, ynghyd â'r Alban, Ffrainc a'r Iseldiroedd. Gwyddom am bedair enghraifft arall yng Nghymru, o Fferm Graianog, Gwynedd; Sain Dunwyd, Bro Morgannwg; a Brynmill, Abertawe, yn ogystal ag un o gelc Cwm Cadnant, Ynys Môn.