Powlen bren, 400-100 CC. Cafodd ei canfod ym Mryngaer Breiddin, y Trallwng, y Canolbarth.
Mae’r powlen pren bregus yma ymhlith yr ychydig rai sydd wedi goroesi o ganol Oes yr Haearn. Archaeolegwyr ddaeth o hyd iddo ar waelod hen danc dŵr llawn malurion wrth gloddio ym mryngaer Breiddin, ger y Trallwng yn y Canolbarth. Mae’n debygol o fod wedi’i thurnio ar durn ffon. Dydyn ni ddim yn gwybod pa fath o bren yw e.