Powlen yr Wyddfa, 25-100 OC. Cafodd y ddolen bres a haearn â gwydr coch hon ei chanfod ar y Grib Goch, yr Wyddfa.
Ar un adeg, roedd gan Bowlen yr Wyddfa gorff efydd â gwaelod crwn, dolen a mownt wedi’i addurno. Llwyddodd gweithwyr efydd Diwedd Oes yr Haearn i berffeithio’r dechneg o ddefnyddio paneli gwydr coch i greu patrymau lliwgar.