Lwyarn o asgwrn ceffyl a daeth i’r fei gyda’r ‘Ddynes Goch’. 30000 CC.
‘Y Ddynes Goch’ yw un o’r bodau dynol modern cynharaf i gael ei gladdu yn Ewrop. Er gwaetha’r enw, gweddillion dyn ifanc yn ei ugeiniau ydynt. Cafodd ei gladdu’n barchus tua 32,000 o flynyddoedd yn ôl. Pan ddaeth y corff i’r fei, roedd yr arbenigwyr yn credu mai menyw oedd hi am fod gleiniau cragen a modrwyau ifori hefyd yn y bedd. Mae'n bosibl eu bod wedi’u gwnïo at y dillad neu’n cael eu gwisgo. Gosodwyd darnau o ifori wedi torri o’i amgylch hefyd. Erbyn hyn, mae’r gweddillion yn Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Rhydychen.