Gwnaed y gwaith hwn ym 1847-48 a fersiwn ragarweiniol ydyw o'r peintiad o ddyn yn hau a ddaeth ag enwogrwydd i Millet yn Salon 1850-51. Yma mae'r heuwr blinedig wedi ei amgau gan y tir o'i gwmpas, ac adar barus yn bygwth ei had. Ar y gorwel mae dwy fuwch yn pori. Y dirwedd serth yw'r wlad o gwmpas ardal enedigol Millet ar benrhyn Cherbourg. Mae'r olygfa deimladwy hon yn ein hatgoffa o'r ddameg yn y Beibl ac mae'n ddelwedd gref o ddosbarth cymdeithasol yn cael ei ormesu. Cafodd ei brynu gan Gwendoline Davies ym 1911.