Mae dau lanc 'diniwed' ar y dde yn paratoi ar gyfer eu cam nesaf mewn gêm o Piquet. Ymddengys nad ydynt fawr callach am gyfrwystrau'r gwrthwynebwyr, ond mae rhyw densiwn yn yr ystafell gan fod llaw'r dyn y tu cefn iddynt ar ei gleddyf. Roedd llawer yn edmygu Meissonier am goethder a manylder arbennig ei luniau o natur hanesyddol, a ddefnyddiai baentiadau Iseldiraidd yr ail ganrif ar bymtheg fel ysbrydoliaeth.