Mae'r llun hwn o'r fugeiles ifanc a'i phraidd yn debyg i weithiau cynharach gan artistiaid Ffrengig fel Jean-Francois Millet a Camille Corot. Roedd Mauve yn perthyn i grŵp o artistiaid Iseldiraidd, sef Ysgol Hague, a gafodd eu hysbrydoli gan eu dehongliad o olau a natur. Defnyddiodd Mauve syniadau tebyg yn ei baentiadau o rosydd yn ardal Gooi, yr Iseldiroedd.