Mae'r gwaith hwn yn darlunio Napoli gyda'r bae a Mynydd Vesuvius yn y cefndir ar y chwith a Phenrhyn Sorrento i'w weld ar y gorwel. Mae Castel Sant' Elmo a dwy o'r coed pên bythol yn ffrêm i'r cyfansoddiad. Cafodd y tirlun Clasurol hwn, a ysbrydolwyd gan Claude a Wilson, ei ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1784.