Roedd Thomas Pennant (1726-98) o Downing, Sir y Fflint yn naturiaethwr, teithiwr a hynafiaethydd blaenllaw. Ymhlith ei gyhoeddiadau yr oedd 'Tours in Wales, '1778 a 1781. Disgrifiwyd ef gan Dr Johnson fel 'y teithiwr gorau i mi ei ddarllen erioed' a gwnaeth lawer i annog diddordeb yn nhopograffeg a hanes Cymru. Ennillodd gryn fri gyda'i weithiau 'British Zoology. ' Yn y portread hwn gwelir anffurfioldeb hamddenol Gainsborough a'i waith brws llac, ysgafn.