Bu'r arlunydd Fuseli o'r Swistir yn astudio yn Rhufain cyn ymsefydlu yn Lloegr ym 1779, lle daeth yn enwog am ei luniau ar themau llenyddol. Roedd yn gyfaill i Mary Wollstonecraft a William Blake ac etholwyd ef yn Athro Peintio a Cheidwad yr Academi Frenhinol. Bu gan Fuseli ddiddordeb yn 'Odyssey' Homer ers y 1760au. Cyhoeddwyd hwn fel engrafiad ym 1804 ac mae'n dangos Odysseus yn ymweld â Teiresias yn yr Isfyd. Rhwng y ddau mae cysgod Anticleia, mam Oddyseus.