Gwisg: Het, cap, ffedog, betgwn, sgert, dwy bais, dillad isaf, dwy siòl, esgidiau, babi gyda ffrog a chap mewn siòl fagu.
Corff: Dol gyfansawdd, papier-mâché gyda gorchudd o gŵyr (y cyfan bron wedi diflannu). Y corff wedi’i orchuddio mewn lliain wedi’i baentio, a’i stwffio gan yr un defnydd o bosib. Cawell weiren yn dal y sgert allai hefyd fod wedi cael ei defnyddio i sefyll y ddol ar ei thraed. Y babi wedi’i wneud o borslen.
Het: sidan plwsh
Cap: rhwyd a rhuban
Sylwadau cyffredinol: Mae’n anghyffredin gweld Gwisg Gymreig gyda streipiau melyn (ar y gŵn) a streipiau llorweddol (ar y sgert).