Roedd pobl Paris yn ciniawa yn yr awyr agored yn thema boblogaidd ymhlith artistiaid a beintiai olygfeydd o'r bywyd modern. Yma, mae'r dyn barfog yn enghraifft nodweddiadol o'r dosbarth canol. Mae tri yn eistedd yn hapus braf, ac mae un ohonynt yn bwydo sbarion i gi bach digon gwantan yr olwg. Mae dyn arall mewn cap fflat yn llowcio'i goffi'n frysiog, ac yn llygadu'r tamaid blasus.