Dangosir yr eisteddwr anhysbys o'r ochr gyda'i goler mawr, ei fwstas llipa a'i lygaid dyfriog, mewn siâp hirgrwn ffug - dyfais boblogaidd o'r cyfnod. Van Dyck oedd artist cynorthwyol mwyaf llwyddiannus a thalentog Rubens. Aeth i arlunio yn yr Eidal a pherffeithio'i arddull fawreddog o greu portreadau, cyn cyrraedd Lloegr ym 1632 i weithio fel artist llys y Brenin Siarl I, a'i hurddodd yn farchog yn fuan wedi iddo gyrraedd.