Ym 1905-06 yr oedd Derain yn un o arlunwyr mwyaf blaenllaw y Fauve (Bwystfilod Gwylltion), sef grŵp avant garde o arlunwyr Ffrengig a gynhyrchai dirluniau lliwgar iawn. O dan ddylanwad Cézanne, mabwysiadodd arddull fwy cymedrol wedyn. Cafodd y tirlun hwn gydag eglwys Romanesg a milwyr ar fryn ei beintio yn Vers ger Cahors yn ardal fynyddig Lot yn Ne Ffrainc. Mae'r dull ffres, hollol ymwybodol naïf yn deyrnged i beintio Eidalaidd y Trecento.