Mae dau gardotyn dall yn igam-ogamu drwy'r tirlun, eu dallineb yn symbol o anwybodaeth a ffolineb dyn. Rhybuddia'r ddameg o'r Beibl (Mathew 15:14) 'Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew'. Roedd Benjamin Cuyp yn arbenigo mewn golygfeydd o fywyd gwerin ac o gymeriadau o'r Beibl. Yn y darlun mae'n dehongli gwrthdaro ysbrydol y cyfnod cythryblus. Roedd yn ewythr i'r tirluniwr enwog, Aelbert Cuyp.