Byddai arlunwyr yn gosod bwyd yn erbyn cefndir tywyll fel hyn yn aml, i bwysleisio effeithiau lliw, golau a gwead. Nod lluniau bywyd llonydd oedd apelio at synhwyrau amrywiol y gwyliwr; blas a chyffyrddiad yn ogystal â’r golwg. Mae’r darn hwn yn nodweddiadol o draddodiad bywyd llonydd Ffrengig sy’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif, ac a ddaeth yn fwyfwy poblogaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.