Ganed Bloch yn Silesia a bu'n astudio ac yn gweithio yn Berlin gan arddangos yn oriel Paul Cassirer ym 1911-20. Ym 1934 symudodd i Brydain a daeth yn gyfeillgar â Josef Herman gan ymweld â Chymru droeon. Cafodd y darlun hwn o weithwyr yn chwarel Bethesda ei gynnwys yn arddangosfa Gŵyl Prydain 60 Paintings for 1951.. Mae ei arddull Fynegiannol yn dangos dylanwad arhosol Edvard Munch (1863-1944) a edmygodd waith Bloch ym 1920.