Roedd golygfeydd mynyddig yn un o ffefrynnau Christopher Williams, ac yma mae'r tirlun wedi'i foddi mewn golau euraid wrth i'r haul fachlud. Yn y pellter mae pegynau creigiog y mynyddoedd yn bygwth, a llwybr treuliedig yn arwain tua'r chwith yn ein temtio i anturio yn y tirlun creigiog. Mae tawelwch a heddwch yr olygfa yn cyfleu cariad yr artist at dirlun garw a phrydferth Cymru.