Ganed Fenton (1742-1821) yn Nhyddewi, Sir Benfro ac yr oedd yn awdur gweithiau barddonol a thopograffyddol, gan gynnwys 'Historical Tour Through Pembrokeshire. 'Ymhlith ei gyfeillion roedd Oliver Goldsmith a Syr Richards Colt Hoare o Stourhead. Mae'n debyg i hwn gael ei beintio yn y 1770au pan oedd yr arlunydd ar ddechrau gyrfa lwyddiannus, a dangosir y 'bonheddwr hynod o fonheddig' hwn yn synfyfyrio wrth benddelw Homer.