Wedi gorchymyn y Brenin Herod i ladd pob bachgen bach llai na dwyflwydd, ffodd y Teulu Sanctaidd o Fethlehem i'r Aifft. Yma, mae Mair yn gorffwys mewn adfail gyda Christ yn ei breichiau. Mae'r ddelw ddrylliedig yn symbol o gwymp y duwiau paganaidd ar ddyfodiad Crist. Roedd Gaulli, neu il Baciccio, yn gweithio yn Rhufain, lle y daeth yn ddigon enwog i ennill saith comisiwn i beintio portreadau o babau.