Wright oedd y peintiwr gwirioneddol ddawnus cyntaf o Brydeiniwr i gael gyrfa lwyddiannus o'i ddewis y tu allan i Lundain. Peintiwyd y rhan fwyaf o'i ddarluniau ar gyfer y dosbarth canol cynyddol a oedd yn ffynnu yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, neu amdanynt. Ar ei ymweliad â'r Eidal ym 1773-75 cafodd ddigon o ddefnydd i beintio golygfeydd o'r wlad am weddill ei oes. Byddai Llyn Albano a'r wlad o gwmpas yn destun edmygedd gan dwristiaid o Brydain ar ymweliad â'r Eidal yn y 18fed ganrif. Mae'r ffigyrau hamddenol yn y tu blaen yn awgrymu eu bod yn syllu ar lannau'r llyn yn fodlon eu byd.