Ganed Alma-Tadema a'i hyfforddi yn yr Iseldiroedd ac aeth i Lundain i fyw ym 1870. Roedd ei ddarluniau bach cain o Rufain glasurol yn boblogaidd gyda chasglwyr cefnog dosbarth canol. Mae'r cyfan wedi eu llofnodi â rhifau Rhufeinig, ac 'opus ' CXXIX yw hwn.