Dyma eiliad ddramatig pan fo'r storm ar ei hanterth, wrth i'r gwynt anrheithio'r tir a rhwygo'r dderwen o'i gwreiddiau. Islaw, mae ffigwr y gwerinwr bach yn pwysleisio anferthedd y digwyddiad, sy'n dwyn i gof syniadau'r rhamantwyr am rym natur yn trechu dyn. Efallai ei fod hefyd yn symbol o'r byd modern yn dinistrio'r bywyd gwledig traddodiadol, fel y credai Millet.