Cadair syml cefn bwa a ddyfarnwyd yn y gystadeuaeth gorawl yn eisteddfod Libanus, Gorseinon ym 1892. Cynhaliwyd yr eisteddfod gapel mewn pafiliwn fawr ger Capel Calfinistaidd Libanus, Gorseinon. Enillydd y gadair a £15 oedd Mr D Jeffreys, arweinydd Côr Bryn, Llanelli am berfformio gwaith Handel 'We never will bow down'.
Byddai’r cadeiriau hyn yn cael eu masgynhyrchu yn y cynod ac yn boblogaidd mewn adeiladau cyhoeddus fel tafarndai, neuaddau, llyfrgelloedd a stiwts.