Dyma gadair Eisteddfod Genedlaethol Treorci,1928. Roedd Cymru yn y flwyddyn honno mewn cyfnod o ddirwasgiad enbyd. Ymwelodd y Prif Weinidog, Stanley Baldwin, â'r Eisteddfod yn Nhreorci gan ddatgan ei edmygedd at y bobl leol am drefnu'r ŵyl yn wyneb y fath galedi.
Ar gefn y gadair mae arfbais Awstralia, gan mai Cymdeithas Gymraeg Blackstone, Queensland, gyflwynodd y gadair yn rhodd i'r Eisteddfod y flwyddyn honno. Yn debyg i Dreorci, yr oedd Blackstone yn ardal lofaol. Credir mai saer y gadair oedd Evan Morris Jones, un o griw o ymfudwyr i Blackstone, yn hanu o Dal-y-bont, Ceredigion. Er gwaethaf hyn, ni fu neb yn deilwng o'r gadair yn Eisteddfod 1928.