Print menyn o bren masarn. Daw o Lanhari, Pont-y-clun.
Defnyddiwyd printiau menyn i roi stamp ar fenyn yn barod ar gyfer y farchnad. Roedd y grefft o gerfio printiau yn boblogaidd mewn llawer o wledydd, ond mae printiau siâp cwch yn unigryw i Gymru. Calonnau, siapiau geometrig a llinellau’n lledaenu o ganol cylch oedd y mwyaf poblogaidd. Rhwng tua 1850 a 1900, roedd rhosod, mefus, gwartheg, mês ac afalau pîn yn batrymau ffasiynol.