Cwilt clytwaith a wnaed yn y 1950au gan Mari Lewis (1867-1956), cwiltwraig pentref Llangeitho.
Mae ei llyfr cyfrifon yn dangos ei bod yn gwiltwraig doreithiog, a chanddi gwsmeriaid yn Llundain hyd yn oed. Ei chwiltiau satîn cotwm oedd fwyaf poblogaidd. Wrth iddi heneiddio, dechreuodd golwg Mari ballu ond llwyddodd i greu’r cwilt hwn rai blynyddoedd cyn iddi farw ym 1956.