Clytwaith ar ei hanner. Cotwm print yw'r defnydd ac mae'n dangos y dechneg o wnïo dros bapur.
Mae'r clytwaith yma wedi bod ar ei hanner ers dechra'’r 1800au. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy oedd y crefftwr, nac o ble y daw. Ar y cefn, mae darnau o hen bapur brown – papurau newydd neu lythyron personol – yw’r templedi. Mae dyddiad ‘1 May 1816’ ar un darn.