Gwisg: Het, betgwn, sgert, pais, dillad isaf, sanau, hances a siòl.
Corff: Pen crochenwaith bisg gyda gwallt melyn wedi mowldio. Y pen yn rhydd. Y corff wedi’i stwffio â gwellt a charpiau. Rhan ucha’r breichiau yn weiren gyda blaen y breichiau o briddwaith heb wydriad. Peg pren yw rhan ucha’r goes yn cysylltu â gwaelod y goes o briddwaith heb wydriad. Rhan isaf y goes dde ar goll. Mae rhai o’r dilladau wedi’u pinio i’r corff. Nodau cynhyrchu ar yr ysgwydd yn dynodi: 285 7/0.
Het: sidan plwsh
Cap: dim
Sylwadau cyffredinol: Gŵn nos byr wedi’i greu o dri darn – un ar gyfer y bodis a dwy fraich ar wahân. Mae’r bodis yn dod at y glun a’r chwith yn plygu dros y dde yn y blaen gyda’r hem wedi’i siapio’n grwm.