Modrwy fylchgron fach, wag o eurddalen ac iddi drawstoriad siâp triongl yw hon. Fe’i gwnaed o ddau blât siâp conau, a’r gwaelodion wedi’u huno, i greu ffurf deugonig. Mae gwifren aur ac iddi drychiad crwn wedi’i sodro wrth y platiau i rwymo’r ymyl allanol. Mae hon wedi llacio o’r ymylon mewn mwy nag un lle a gwelir diferion o'r sodr ar y platiau wyneb. Mae i’r fodrwy agoriad crwn yn y canol, ac roedd trydedd ddalen yn ei leinio ar un adeg. Roedd hon ar siâp tiwb, ond nid yn ddi-dor, ac roedd bwlch rhwng y terfynellau. Nid yw’r platiau wyneb wedi’u haddurno.