Mae awen adeiniog ‘Anfarwoldeb’ yn dal palmwydden buddugoliaeth wrth iddi wasgaru blodau ar fedd ‘DELACROIX’. Tu ôl iddi, mae tyrrau Eglwys Gadeiriol Notre Dame a chromen cofeb genedlaethol y Panthéon i’w gweld uwchlaw’r gorwel ym Mharis. Bu gwaith Eugène Delacroix (1798-1863) yn gryn ddylanwad ar Fantin-Latour, ac roedd ei ddefnydd o ffurfiau a lliwiau naturiaethol yn destun dadlau ymhell ar ôl iddo farw.