Plac efydd â addurn La Tène Celtaidd arno. Ar un adeg, roedd wedi’i osod ar wrthrych mwy a gwastad. 200 CC-50 OC.
Cafodd y patrwm trisgell, sy’n edrych fel tri choes yn troi, ei forthwylio’n gelfydd o’r cefn. Dyma un o’r enghreifftiau pwysicaf o gelf Geltaidd o Brydain. Mae archaeolegwyr o’r farn bod y patrymau hyn yn cyfleu negeseuon crefyddol pwerus i bobl Oes yr Haearn.