Mae'n bosibl fod gof wedi treulio tair blynedd i greu'r frigwn hwn, o fwyndoddi’r haearn i’r gwaith gorffenedig. Mae 85 darn unigol o haearn gyr yn y brigwn. Yn wreiddiol, roedd yn un o bâr fyddai wedi eistedd un bob ochr i brif aelwyd tŷ crwn pennaeth yn Oes yr Haearn.