Byddai Turner yn peintio golygfeydd o'r môr gydol ei fywyd. Mae ei weithiau diweddaraf, gyda'u sylwadaeth gynnil a dwys ar effeithiau golau ar ddŵr ac awyrgylch, yn rhagfynegi darganfyddiadau'r Argraffiadwyr. Mae'n debyg i'r darlun môr hwn o 1840-5 a'i gymar 'Y Storm' gael eu hysbrydoli gan storm fawr ar 21 Tachwedd 1840.