Mab i dirfeddiannwr o Sir Faesyfed oedd Thomas Jones (1742-1803.) Ar ôl treulio dwy flynedd yn Rhydychen, gadawodd ym 1761 heb radd i fynd i astudio peintio yn Llundain. Treuliodd ddwy flynedd fel prentis i Richard Wilson cyn ddechrau ar yrfa annibynnol ym 1765. Arlunydd o Rufain oedd Giuseppe Marchi, cyfaill Jones, a ddaethai gyda Joshua Reynolds o'r Eidal ym 1752 fel ei gynorthwywr. Ym 1768 aeth i gartref Jones yn Mhencerrig ac yno peintiodd y portread hwn ac eraill o deulu'r arlunydd.