Golygfa o eglwys Saint-Pierre yn Petit-Montrouge, un o faestrefi Paris. Arni mae'r arysgrif: â mon ami H. Charlet 28 Xbre 1870. Hwyrach mai cydymaith oedd Charlet, oherwydd roedd Manet yn filwr yng ngwarchae Paris yn ystod y gaeaf 1870-71. Ysgrifennodd at ei wraig: 'Mae fy sach milwr yn...dal popeth sydd eisiau ar gyfer peintio. Byddaf yn fuan yn dechrau ychydig frasluniau o fywyd llonydd. Bydd y rhain yn gofroddion o werth ryw ddiwrnod.' Mae'r olygfa hon yn yr eira yn un o rai cynharaf Manet yn yr awyr agored. Prynodd Gwendoline Davies y darlun ym Mharis ym mis Hydref 1912