Tua diwedd ei oes, roedd Manet yn tynnu fwyfwy at fywyd llonydd. Mae'r darlun hwn yn dangos cwningen yn hongian y tu allan rhwng ffenestr a phalis. Mae'n un o bedwar panel addurnol a beintiodd yn ystod yr haf 1881 ger Versailles. Yn y flwyddyn honno cafodd Manet, o'r diwedd, fedal gan y Salon a'i wneud yn Chevalier y Legion d'Honneur. Pwnc traddodiadol yw hwn, ond mae'r arddull rydd yn bendant Argraffiadol. Prynodd Gwendoline Davies y gwaith ym Mharis ym mis Rhagfyr 1917.