Cafodd y gwaith hwn ei gomisiynu ym 1730 gan Robert Jones (1706-42) o Gastell Ffwl-y-mwn ym Morgannwg. Ef sy'n sefyll ar y dde, gyda'i chwiorydd Mary ac Elizabeth a'i frawd ieuengaf Oliver. Gwelir ei fam weddw Mary mewn glas tywyll gyda'i chi sbaniel. Mae'r bachgen gwladaidd sy'n ceisio cael rheolaeth ar y mwnci yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r grŵp teuluol addurniadol. Jones oedd Siryf Morgannwg ym 1729 a daeth yn gyfaill i John Wesley. Mae cyfansoddiad anffurfiol Hogarth a'i driniaeth gain i'w priodoli i Phillip Mercier, peintiwr llys i Frederick Tywysog Cymru.