Mae Syr Thomas Hanmer, yr ail farwnig o Barc Bettisfield, Sir y Fflint, yn gwisgo coler les ffasiynol, ac mae cudyn o'i wallt cyrliog dros un ysgwydd. Dim ond pedair ar bymtheg oed oedd e yn y portread hwn, ond roedd eisoes yn dod yn ei flaen yn Llys Siarl I. Yn ystod y Rhyfel Cartref brwydrodd ar ochr y Brenhinwyr, a daeth yn enwog yn ddiweddarach fel garddwr a gyflwynodd y tiwlip Agate Hanmer i Brydain. Cafodd Johnson, er iddo gael ei eni ym Mhrydain o rieni Ffleminaidd, ei hyfforddi dramor cyn sefydlu ei hun fel peintiwr portreadau yn Llundain. Ymddeolodd i'r Iseldiroedd ar ddechrau'r Rhyfel Cartref. Mae tôn ariannaidd y portread yn ychwanegu at gymeriad coeth, teimladwy y gwrthrych.