Ganed Gilman yng Ngwlad yr Haf a bu'n astudio yn Ysgol Gelfyddyd y Slade. Roedd yn gysylltiedig â Sickert yng Ngrwpiau Fitzroy Street a Camden Town. Mae'n debyg bod y llun mewnol hwn yn dangos y tŷ yn Letchworth, tref newydd yn Swydd Hertford lle roedd Gilman a'i wraig Americanaidd yn byw ym 1908-09. Cafodd y cyfansoddiad hwn, gyda darluniau o bobtu'r drws wedi eu tocio ac amlinell y ffigwr i'w weld yn erbyn y ffenestr, ei drefnu'n ofalus i roi'r argraff mai cael cipolwg arno y mae'r gwyliedydd.