Mae'r darlun anorffenedig hwn o tua 1882 yn dangos thema ganoloesol olwyn ffawd, sy'n codi neu'n gostwng dyn wrth iddi gael ei throi gan y dduwies Fortuna. Mae dylunio'r cyrff noeth a gwisg y dduwies yn dangos bod yr arlunydd wedi astudio gwaith Michelangelo.