Mae gwaith brwsio cain Corot yn cyfleu llewych golau'r nos, sy'n nodweddiadol o'i baentiadau awyr agored. Mae'n cyfuno naturoliaeth fodern ag elfennau o dirluniau Claude Lorrain o'r ail ganrif ar bymtheg. Roedd Castel Gandolfo ar Lyn Albano, i'r de o Rufain yn destun poblogaidd, ond cafodd y gwaith hwn ei greu o gof yr artist. Y tro diwethaf i Corot ymweld â'r Eidal oedd bymtheg mlynedd ynghynt, ym 1843.