O fan ar y Molo, mae'r cyfansoddiad hwn yn darlunio'r llongau ar Gamlas Giudecca, y Dogana, Santa Maria della Salute, ceg y Gamlas Fawr, y Giardinetti Reali a thu blaen y Zecca gan Sansovino. Yn ystod ei ymweliad â Fenis, sylwodd Boudin sut yr oedd: '...storm yn lapio popeth mewn niwl llwyd, mwll...mae'r dyfroedd, nad ydynt yn debyg i ddyfroedd y Môr Canoldir, yn wyrdd gan mwyaf ac nid ydynt yn wahanol i ddyfroedd y Sianel.' Prynodd Gwendoline Davies y gwaith hwn ym 1912.