Mae'r cymeriad unigryw hwn, sy'n edrych yn ôl dros ei ysgwydd dde, yn ymddangos mewn dau baentiad arall gan Daumier. Fe'i gwelir mewn golygfeydd o'r baricedau yn ystod chwyldro 1849. Prynodd y chwiorydd Davies ddarlun paratoadol o hwn hefyd. Mae'r llinellau a'r haen o liwiau yn fwy manwl yn y paentiad hwn o gymharu â'r gweddill, ac mae'n debyg y cafodd hwn ei beintio'n fwy diweddar.