Yr oedd eisteddfodauyn ddigwyddiadau diwylliannol pwysig yng nghymunedau diwydiannol glo a llechi ar ddiwedd y 1800au. Un o’r rhain oedd eisteddfod boblogaidd Chwarelwyr Cwmorthin, Rhosydd, Wrysgan a Chonglog a gynhaliwyd ym Mlaenau Ffestiniog. Un o'r prif gystadleuthau oedd y canu corawl.
Yn Eisteddfod Cwmorthin 1880, cadair oedd y wobr ar gyfer y gystadleuaeth corau. Cyflwynwyd i Cadwaladr Roberts, arweinydd Côr y Moelwyn. Yn wahanol i lawer o gadeiriau barddol o’r cyfnod, mae’n ymddangos yn gadair gyfforddus gyda chlustogwaith o ledr. Yr oedd yn dilyn arddull ffasiynol antique a oedd yn ysgafnach ei golwg na dodrefn arferol o ganol cyfnod Fictoria.